Cranc
ôl-gynhyrchu sain

Ein Cyfleusterau

Mae gennym 3 stiwdio, bob un yn gysylltiedig a 'stafell recordio' i hun, yn ogystal a 3 ardal gosod traciau.

Y cwbwl wedi'u cysylltu ag ystafell beiriannau sy'n cynnwys nifer o beiriannau tâp.

Stiwdio 1

Mae Stiwdio 1 yn cynnwys y dechnoleg sain ddiweddaraf. Arwyneb rheoli wedi ei adeiladu ar system Pro Tools HDX gadarn yn llawn offer sain hanfodol.

Monitro sain agos Genelec a JBL Control 1 ar gyfer gwirio ar gyfer saib teledu.

Mae Monitor mawr i'r cleient allu gwylio.

Yn cynnwys system effeithiau sain cwbl chwiliadwy wedi'i digideiddio ar gyfer boddhad sonig sydyn. Ystafell reoli gyfforddus, gyda desg ar gyfer gweithio a bwth lleisiol.

Stiwdio 2

Mae Stiwdio 2 hefyd yn cynnwys arwyneb rheoli wedi ei adeiladu ar system Pro Tools HDX gydag offer sain hanfodol.

Monitro sain agos Genelec a JBL Control 1 ar gyfer gwirio ar gyfer saib teledu.

Mae Monitor mawr i'r cleient allu gwylio. Yn cynnwys system effeithiau sain cwbl chwiliadwy wedi'i digideiddio ar gyfer boddhad sonig sydyn. Ystafell reoli gyfforddus, gyda desg ar gyfer gweithio a bwth lleisiol.

Stiwdio 3

Mae Stiwdio 3 yn cynnwys consol Avid S6, system Pro Tools HDX a system sain amgylchynol Genelec 5.1.

Cafodd yr ystafell reoli fawr ei dylunio ar gyfer cymysgu amgylchynol 5.1 ac mae ganddi'r holl daclau sy'n angenrheidiol ar gyfer fformatiau cyflwyno HD.

Mae'r bwth mawr yn ofod pwrpasol wedi ei adeiladu gan IAC Acoustics ac mae ganddo ffynonellau Mic lluosog ac mae lle i hyd at 10 o bobl.

Gwasanaethau Ychwanegol

Mae gan pob 'stafell y gallu i gysylltu a phob peiriant tâp yn ogystal a gwasanaethau eraill fel ISDN, Source Connect, Zoom ac Archif.

Mae ein gwaith i gyd yn cael ei gadw ar archif, fffoniwch ni o flaen llaw os hoffech i ni fynd yn ol i'r archif.

Gosod Traciau

Mae Gosod Traciau yn ffordd fforddiadwy o baratoi prosiectau ar gyfer cymysgu mewn stiwdio.

Mae gan yr ystafell Gosod Traciau fynediad i'r un gronfa enfawr o effeithiau sain â'r stiwdios a gall hefyd ddefnyddio'n harchif brosiectau gyfan i ddod o hyd i unrhyw sain.

Mae Gosod Traciau yn fwy addas ar gyfer prosiectau ffurf hir fel drama, animeiddio ac ati. Mae'r ystafell Gosod Traciau hefyd yn addas ar gyfer dylunio sain dwys ar brosiectau ffurf byr.

ADR

Rydym wedi cwblhau gwaith ADR ar gyfer nifer o brosiectau drama a ffilm teledu, gan gynnwys 'Dr Who', 'Line of Duty'.

Mae gennym ni amryw o meicroffanau ar gael, gan gynnwys 416, COS-11d ynghyd รข chiwiau gweledol a sain.

Byddwn ni angen ciwiau cyn y sesiwn naill ai mewn ffeil PDF neu MIDI gan EDi Cue neu debyg.

Cysylltiadau

Gallwn gysylltu ag unrhyw stiwdio arall sydd a Source Connect Pro neu apiau VOIP eraill.

Gallwn recordio lleisiau sy'n byw yn rhan arall o'r byd neu gysylltu gyda stiwdio a'r 'talent' yma yn Cranc.

Ein henw defnyddiwr Source Connect yw crancaudio.

Cyfryngau

Gallwn gymryd deunydd i mewn i'n system mewn nifer fawr o wahanol ffyrdd. Gall lluniau fod yn H264, DNxHD, MXF neu unrhyw codec arall tra bod y sain yn dod fel OMF neu AAF.

Gallwn gynhyrchu ffeiliau cymysgedd terfynol a chymysgeddau fel 'Mix minus' a/neu elfennau deialog/fx/cerddoriaeth unigol. Mae gennym beiriannau Digibeta, HDCAM a HDCAM SR.

Cysylltwch â Ni

46 Ffordd Caerdydd
Llandaf
Caerdydd
CF5 2DT

+44(0)29 2056 5858
post@cranc.co.uk
@CrancAudio

Cyfarwyddiadau

Mae Cranc yn Llandaf, Caerdydd. Mae'n agos at yr M4, tua'r dwyrain a'r gorllewin ac nid yw ymhell o ganol dinas Caerdydd.

Mae gennym ni rai mannau parcio ond mae yna hefyd parcio am ddim ychwanegol ar gael gerllaw.

///laws.space.cans Map mawr